26/05/2026
Scroll down for English
Dim ond nodyn bach i atgoffa pawb fod Naturally Ethical yn dal ar agor drwy gydol y gwaith yn y sgwâr.
Mae’r palmantau newydd ar Well Street eisoes yn edrych yn dda iawn ac yn teimlo’n llawer mwy diogel, ac rydym yn edrych ymlaen at weld y gwaith wedi ei gwblhau maes o law. Yn y cyfamser, mae misoedd o darfu yn anodd iawn i fusnesau annibynnol lleol tra bod y gwaith yn mynd ymlaen.
Fel mae llawer yn gwybod, mae hi wedi bod yn gyfnod heriol i fusnesau bach ers tro, ac rydym wedi gorfod gofyn am gefnogaeth y gymuned yn y gorffennol er mwyn helpu ni i aros ar agor. Mae Naturally Ethical yn fwy na siop a chaffi. Rydym yn cyflogi pobl leol, yn cefnogi cyflenwyr lleol ac yn gweithio’n galed i gynnig rhywbeth gwahanol a gofalus yn Rhuthun, o goffi organig a chacennau cartref i nwyddau ail-lenwi, anrhegion, cynnyrch harddwch a hufen iâ lleol Chilly Cow.
Os ydych yn gallu parhau i siopa’n lleol yn ystod y cyfnod yma, mae hynny’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae pob ymweliad, coffi a phryniant yn helpu cefnogi busnesau annibynnol a’r bobl y tu ôl iddyn nhw tra bod gwaith canol y dref yn parhau.
Diolch o galon i bawb sydd wedi parhau i’n cefnogi ni.
A reminder that Naturally Ethical remains open throughout the works on the square.
The new pavements on Well Street are already looking really good and feel much safer, and we are looking forward to seeing the finished result once all of the works are completed. In the meantime, the reality of months of disruption is incredibly difficult for independent businesses while the work is ongoing.
As many people know, small independent businesses have already been facing challenging times and we have previously spoken openly about needing community support to help us remain open. Naturally Ethical is more than a shop and café. We employ local people, support local suppliers and work hard to offer something thoughtful and different in Rhuthun, from organic coffee and homemade cakes to refill essentials, gifts, beauty products and local Chilly Cow ice cream.
If you are able to continue shopping locally during this period, it genuinely makes a difference. Every visit, coffee and purchase helps support independent businesses and the people behind them while the town centre works continue.
Thank you to everyone who has continued to support us.